top of page

☁︎ BACH AM GEFNDIR CRYSAU-T NAD-FI'N-ANGOF ☁︎

Nad-fi’n-angof

Maen nhw’n cynrychiolio’r cariad anfarwol sydd gennym at y rhai sydd wedi mynd o’m blaenau.

Yn 1982 ganwyd bachgen bach i Mam a Dad, Owain Rhun Llwyd. Pan oedd yn 4 mis oed, cafodd ddiagnosis o gyflwr ag achosodd niwed difrifol i’w ymennydd. O ganlyniad i hyn, nid oedd yn gallu siarad na chyfleu ei emosiynau. Roedd ei fywyd yn mynd i fod yn fyr. Bu farw ychydig cyn ei ben-blwydd yn 4 oed. Yn ystod blynyddoedd olaf bywyd Owain treuliodd ef a fy rhieni lawer o amser yn hosbis plant Helen House.

 

Mae hosbisau plant yn helpu i edrych ar ôl plant ag oedolion ifanc, gan sicrhau bod cyfnod olaf eu bywydau yn rhai hwyliog gyda chymaint o lawenydd â phosibl. Helen House oedd yr hosbis plant cyntaf yn y byd. Mae gan mam a dad lawer o atgofion melys yn yr hosbis ac fe helpwyd i ddod o hyd i bositifrwydd yng nghyfnod tywyll eu bywydau.

 

Symbol y Tŷ ar y pryd oedd y blodyn nad-fi’n-angof. Mae'r blodyn hwn bellach yn golygu cymaint i ni fel teulu - mae wedi'i gerfio ar garreg fedd Owain ac rwy'n ei gwisgo fel tatŵ ar fy mraich chwith.

 

Nid oedd hosbis i blant yng Nghymru ar y pryd; bu’n rhaid i fy Mam, Dad ac Owain deithio oriau i hosbis Helen House yn Rhydychen, Lloegr. Rwy'n hapus i wybod bod dau hosbis i blant bellach yng Nghymru.

 

Bydd 10% o bob crys-t nad-fi’n-angof yn mynd tuag at Dŷ Hafan - un o'r hosbisau hyn.

Tŷ Hafan yw un o’r prif elusennau gofal lliniarol pediatrig yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n cynnig gofal i blant a chymorth i’w teuluoedd, drwy Gymru gyfan. Maent yn cynnig cysur, gofal a chymorth i blant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr, a’u teuluoedd. Maent yn gwneud hyn yn yr hosbis, yn y gymuned ac yn y cartref, fel bod modd iddynt wneud y gorau o’r amser sydd ganddynt ar ôl gyda’i gilydd. Mae eu help amhrisiadwy wedi cefnogi dros 850 o deuluoedd ers iddynt agor yn 1999.

 

Cliciwch ar y ddolen yma i ddarllen mwy am y gwaith anhygoel y mae Tŷ Hafan yn ei wneud i lawer o blant a theuluoedd yng Nghymru: https://www.tyhafan.org/

 

Gwenllian xx

Ty Hafen web header template.jpeg
Owain.jpeg
bottom of page